Cymru’n Croesawu’r Byd mewn Dathliad Rhyngwladol

Fe roddwyd croeso cynnes Cymreig i gystadleuwyr rhyngwladol neithiwr (nos Iau 6ed Gorffennaf) yn ystod Dathliad Rhyngwladol Eisteddfod Llangollen yn 70ain.

Fe gafodd gorymdaith liwgar o gynrychiolwyr o 29 gwlad wahanol eu diddanu gan berfformiad pwerus o un o hoff emynau’r Cymry, Calon Lân, gafodd ei chanu gan Only Boys Aloud.

Ar ôl yr orymdaith, perfformwyd y Neges Heddwch blynyddol gan Ysgol Gwernant a cafwyd datganiad o waith newydd Anthem Heddwch gan Only Boys Aloud Gogledd. Enw’r gwaith oedd Gobaith yn Ein Cân ac fe’i cyfansoddwyd gan Nia Wyn Jones, gyda’r geiriau’n cael eu sgwennu gan ei phartner, Iwan Hughes, yn arbennig ar gyfer Only Boys Aloud Gogledd.

Gan adlewyrchu ethos y côr elusennol, fe gychwynodd yr anthem gydag unawd cyn adeildau i ddiweddglo cyhyrfus, tra’n adlewyrchu neges y cyfansoddwr.

Dywedodd Nia Wyn Jones: “Mae’r darn yn pwysleisio sut y gall unigolion wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Er enghraifft os yw person yn gwenu, mae’r wên honno’n medru cael ei phasio ‘mlaen a hapusrwydd yn cael ei ledaenu. Mae gennym ni gyd y gallu hwnnw i wneud rhywbeth da.”

Yn ail ran y cyngerdd, oedd yn cael ei noddi gan Westministerstone, cafwyd y cyfarchiad blynyddol gan Lywydd Eisteddfod Llangollen, Terry Waite CBE. Fe wnaeth y dyngarwr bwysleisio neges yr ŵyl gyda cherdd o’i lyfr newydd, Out of Silence.

Darllenodd: “Yma yn y pafiliwn mawr, maen nhw’n ymdeithio. Drymwyr, dawnswyr, cantorion, baneri cenedlaethol yn yr awyr, yn barod i gymysgu mewn un iaith.”

Daeth y gerdd i derfyn gyda geiriau oedd yn cyfleu’r union resymau dros gychwyn yr Eisteddfod 70 mlynedd yn ôl, sef i leddfu effeithiau’r Ail Ryfel Byd – rhywbeth sydd dal yn berthnasol heddiw. Ychwanegodd Mr Waite: “Cymodwch. Byddwch yn heddychlon. Gadewch i harmoni’r cenhedloedd dreiddio i’ch enaid. Canwch gyda llawenydd. Heddiw, rydym yn un.”

Yn dilyn y datganiad emosiynol, fe gafodd y gynulleidfa wledd o berfformiadau gan Academi Principality Only Boys Aloud a’r tri sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol. Daeth hanner gyntaf y noson i ben gyda dawns egnïol gan grwp Lovely Professional University in India.

Yn yr ail hanner, gwelwyd Eisteddfod Llangollen yn dathlu ei chysylltiadau rhyngwladol hyd yn oed ymhellach, gyda pherfformiadau gan grŵp dawns o Ysgol Uwchradd Al-Izhar Pondok Labu, Indonesia.

Yna, cafodd y gynulleidfa ei diddanu gan ddatganiad arbennig o’r gân Gymraeg enwog Suo Gân gan y Sefydliad Technoleg Genedlaethol, Côr Myfyrwyr Jinggaswara ac Only Boys Aloud.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod Ryngwladol, Eilir Owen Griffiths: “Mae’r dathliad rhyngwladol o hyd yn uchafbwynt yn ystod wythnos yr Eisteddfod Llangollen, a doedd y eleni ddim gwahanol.

“Roedd y noson yn llawn o gyffyrddiadau hyfryd, gyda chenhedloedd gwahanol yn dod at ei gilydd ar y llwyfan. Fe welwyd diwylliannau, ieithoedd, traddodiadau, a steiliau cerddorol yn uno i greu dathliad o safon benigamp oedd wir yn cyfleu neges ryngwladol yr ŵyl.”

I brynu ticedi ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Llangollen neu am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.