CYFLE I ENNILL! Gala Clasurol a llety 5 seren

Mae Eisteddfod Llangollen wedi ymuno â Gwesty Palé Hall i gynnig noson fythgofiadwy i un enillydd lwcus.

Rydym yn cynnig cyfle i ennill dau docyn i’r Gala Clasurol ar nos Fawrth, lle bydd Rolando Villazón yn perfformio am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod gyda’r soprano delynegol o Gymru Rhian Lois ac un o sêr lleisiol y dyfodol Charlotte Hoather.

Wedi hynny, gallwch fwynhau arhosiad 5 seren yn ysblander godidog Palé Hall. Mae’r gwesty rhestredig Gradd II wedi’i leoli mewn 50 erw o olygfeydd anhygoel Gogledd Cymru, ar ymyl Parc Cenedlaethol Eryri.

Er mwyn ennill y wobr drawiadol hon a mwynhau’r Eisteddfod mewn moethusrwydd ewch draw i’n tudalen Facebook i gystadlu. (Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw hoffi a rhannu’r bost!)

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei lansio ar ddydd Gwener 3ydd o Fai a bydd yn rhedeg tan 13eg o Fai pan fydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi am 10yb!

Am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau ar gyfer y Gala Clasurol ewch i www.llangollen.net

Noder:

Mae’r tocynnau ar gyfer dau berson i gyngerdd nos Fawrth yn unig. 

Mae noson yn Palé Hall ar gyfer dau oedolyn ar yr 2il o Orffennaf

Ni ellir cyfnewid y wobr hon am unrhyw noson arall

Nid yw cludiant rhwng Palé Hall a’r Eisteddfod wedi’i gynnwys yn y wobr