Friday 28 June 2024
Manic Street Preachers & Suede


Bydd y Manic Street Preachers a Suede yn serennu mewn cyngerdd arbennig iawn yn Llangollen ar ddydd Gwener Mehefin 28, fel rhan o’u taith newydd yn y DU ac Iwerddon.

Mae’r dyddiad ym mis Mehefin yn nodi dychweliad ysgubol y Manic Street Preachers i Langollen ar ôl iddynt serennu ddiwethaf yn yr ŵyl yn 2017.

Mae’r Manic Street Preachers yn un o’r bandiau roc mwyaf dylanwadol ac eiconig i ddod allan o Gymru erioed. Maent wedi rhyddhau 14 albwm ac wedi arwain gwyliau di-ri gan gynnwys Glastonbury, T in the Park, V Festival, Reading a Leeds. Maent wedi ennill un ar ddeg o Wobrau’r NME, wyth Gwobr Q a phedair Gwobr BRIT ac mae’r band hefyd wedi cael eu henwebu ar gyfer Gwobr Mercury a Gwobrau Cerddoriaeth MTV Europe.

Mae newyddion am y daith yn ateb y galw mawr yn dilyn llwyddiant nawfed albwm Suede, Autofiction, a gwerthwyd pob tocyn i’w prif daith yn y DU yn gynharach eleni. Gan fynd yn syth i Rif 2 yn Siart Albymau’r DU ar ôl cael ei ryddhau, safle siartiau albwm gorau Suede ers Head Music yn 1999. Barn dilynwyr a beirniaid fel ei gilydd oedd bod yr albwm newydd yn cynrychioli uchafbwynt gyrfa i’r band.

Cyflwynir y brif sioe mewn partneriaeth newydd rhwng Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a hyrwyddwyr Live Nation, Cuffe a Taylor.

Mae Cuffe and Taylor, un o brif hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw, theatr a digwyddiadau’r DU, yn partneru â’r Eisteddfod Ryngwladol i hyrwyddo cyfres o gyngherddau byw ar y cyd â’r ŵyl heddwch fyd-enwog.

Mae tocynnau ar werth dydd Gwener 13 Hydref am 9am ond gallwch gofrestru ar gyfer mynediad ymlaen llaw YMA