Telynores Frenhinol yw’r diweddaraf i ymuno â chyfres cyngherddau Eisteddfod Ryngwladol

I ddathlu bod tocynnau yn mynd ar werth i’r cyhoedd heddiw, dydd Mercher 12fed Rhagfyr am 9 o’r gloch, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi mai’r Delynores Frenhinol ac Is Lywydd yr ŵyl, Catrin Finch, yw’r artist diweddaraf i ymuno â chyfres cyngherddau nos 2019.

Fel telynores fyd enwog a chyfansoddwr i Dywysog Cymru, fe adnabyddir Catrin Finch fel un o gerddorion fwyaf amryddawn a llwyddiannus ei chenhedlaeth. Wedi iddi arddangos talent o oed cynnar iawn, fe gafodd y fraint o fod yn Delynores Frenhinol am bedair blynedd cyn diddannu cynulleidfaoedd fel perfformwraig ryngwladol.

Fe fydd Catrin yn ymuno â lein-yp sy’n barod yn cynnwys rhai o gerddorion fwyaf talentog y byd – y seren Blues a Jazz, Jools Holland; y tenor Ffrengig-Mecsicanaidd, Rolando Villazón; grŵp salsa, pop a fflamenco, Gipsy Kings; a’r band gwerin poblogaidd, MABON.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr ŵyl, Edward-Rhys Harry: “Rydym yn hynod falch o gyhoeddi mai Catrin fydd yr ychwanegiad nesaf at ein cyfres o gyngherddau nos, sy’n ymestyn dros sawl genre a chenedlaeth ac yn croesi ffiniau oed, diwylliant a chrefydd. Yn wir, mae yma rywbeth i bawb ac fe fyddwn ni’n ychwanegu hyd yn oed mwy o artistiaid yn y Flwyddyn Newydd, gyda chyhoeddiad am Llanfest 2019.”

Fe aeth tocynnau ar werth i’r chyhoedd heddiw am 9 y bore (dydd Mercher 12fed Rhagfyr) ac fe ellir eu prynu ar lein o www.llangollen.net neu trwy ffonio’r Swyddfa Docynnau.

Mae cyfres cyngherddau 2019 hefyd yn cynnwys:

Llun 1af Gorffennaf – Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm a Blues

Noddir gan Kronospan

Fe fydd Is Lywydd ac un o ffefrynnau’r yr ŵyl, Jools Holland, yn diddanu cynulleidfa’r Pafiliwn Brenhinol gyda’i Gerddorfa Rhythm a Blues ar ddydd Llyn, Gorffennaf 1af. Y seren jazz, blues a swing fydd yn lansio cyngherddau 2019 gyda noson fythgofiadwy o gerddoriaeth byw, a noddir yn hael gan Kronospan.

Mawrth 2il Gorffennaf – Gala Opera gyda Rolando Villazón a’i westeion
Noddir gan Barc Pendine

Bydd y tenor rhyngwladol adnabyddus, Rolando Villazón, yn dod â’i lais cyfareddol i Langollen am y tro cyntaf. Yn ymuno a Villazón, sy’n enwog am berfformiadau unigryw gyda thai opera mwyaf blaenllaw’r byd, fydd y soprano Gymreig, Rhian Lois, am noson a fydd yn wledd o gerddoriaeth glasurol o’r safon uchaf.

Mercher 3ydd Gorffennaf – Seintiau a Chantorion: Cerddoriaeth Cymru

Mae gan Gymru enw da ledled y byd am ei cherddoriaeth gorawl, a bydd y noson hon yn arddangos Gwlad y Gân ar ei gorau gyda’r cantorion penigamp Shan Cothi a Rhodri Prys Jones, ynghyd â Cherddorfa Sinfonietta Prydain. Bydd y gynulleidfa yn cael cyfle i gael dau brofiad cerddorol nodedig: perfformiad cyntaf gwaith newydd sbon ar gyfer tenor, corws a cherddorfa gan Dr Edward-Rhys Harry, a mawredd cantata rhyfeddol ‘Teilo Sant’ gan William Mathias CBE.

Disgwylir y bydd y noson yn ddathliad dramatig o gerddoriaeth draddodiadol o Gymru, gydag alawon godidog a chorysau operatig pwerus.

Iau, 4ydd GorffennafDathliad Rhyngwladol gyda MABON Jamie Smith
Noddir gan Gyngor Sir Ddinbych a Westminster Stone

Daw perfformwyr rhyngwladol ynghyd mewn carnifal bywiog o ddiwylliannau i arddangos y gorau o bob cwr o’r byd, wrth iddynt wau ei ffordd drwy’r gynulleidfa gyda baneri enfawr mewn arddangosfa o undod a chyfeillgarwch rhyngwladol.

Caiff y gwerthoedd sylfaenol ac unigryw sydd wrth galon yr Eisteddfod Ryngwladol o rannu cerddoriaeth, dawns, heddwch a chyfeillgarwch eu dathlu a’u cofio, gyda Neges Heddwch deimladwy a’r Wobr Heddwch Rotari flynyddol.

Bydd y gwestai arbennig – band gwerin llwyddiannus Jamie Smith, MABON – yn llenwi’r lle gyda’u sain drawiadol, unigryw fydd yn siŵr o wneud i chi symud eich traed wrth iddyn nhw gyflwyno dehongliadau o alawon Celtaidd – gan gyfuno treftadaeth gyda’u sain gyfoes.

Gwener 5ed Gorffennaf – Gipsy Kings gydag Andre Reyes

Noddir gan Linguassist

Yn wreiddiol o dde Ffrainc, fe fydd y grŵp yn arddangos ei arddull egnïol gyda rhythmau Lladinaidd byrlymus yn Llangollen am y tro cyntaf erioed.

Mae eu cerddoriaeth yn gynnes, bywiog a hynod boblogaidd, gyda chaneuon fel ‘Bamboleo’ a ‘Volare’ wedi cyrraedd brig y siartiau. A bydd y gynulleidfa yn mwynhau cyfuniad unigryw o synau rwmba, flamenco a salsa ynghyd a cherddoriaeth bop gyfoes – perffaith i unrhyw un sy’n hoff o ddawnsio.

Sadwrn 6ed Gorffennaf – Côr y Byd

Noddir gan Aldi

Mewn cyngerdd teledu byw, bydd cystadlaethau’r Eisteddfod yn cyrraedd uchafbwynt cyffrous wrth i’r goreuon o blith corau o bedwar ban byd gystadlu am wobr nodedig Côr y Byd 2019 a thlws Pavarotti. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y categorïau dawns yn mynd benben am deitl Pencampwyr Dawns y Byd 2019, wrth iddynt gystadlu am Wobr Ddawnsio Lucille Armstrong. Bydd y noson hefyd yn cynnwys ymddangosiad arbennig gan y Delynores Frenhinol, Catrin Finch.

Llanfest 2019

Daw’r ŵyl i derfyn ar ddydd Sul, 7fed Gorffennaf gyda Llanfest 2019, gyda’r artistiaid cyffrous a’r artistiaid cefnogol yn cael eu cyhoeddi yn fuan.