Grosvenor Insurance yn helpu grwpiau lleol i gamu ar y llwyfan rhyngwladol

Mae Grosvenor Insurance Services sydd wedi’u lleoli yng Nghaer a yn Wrecsam wedi rhoi rhodd o £5,000 i sicrhau y gellir perfformio menter cynhwysiant cymunedol lleol yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr haf hwn.

Mae Prosiect Cynhwysiant yr Ŵyl wedi bod yn rhedeg am ddeng mlynedd, gan helpu i hyrwyddo undod ac amrywiaeth ledled Gogledd Cymru, Swydd Amwythig a Sir Gaer. Bydd cymysgedd amrywiol o grwpiau cymunedol ac anabledd lleol na fyddai eu haelodau sydd ar y cyrion fel arfer yn cael y cyfle i berfformio mewn digwyddiadau rhyngwladol, yn ymarfer gyda’i gilydd dros y misoedd nesaf gan arwain at berfformiad unigryw ar brif lwyfan yr Ŵyl ym mis Gorffennaf.

Bydd Theatretrain Regional Choir o’r Wyddgrug a Derwen on Tour, grŵp perfformio o Goleg Derwen Croesoswallt sy’n defnyddio arwyddion Makaton i helpu plant heb leferydd yn dychwelyd eleni. Y grwpiau newydd yn ymuno â nhw fydd One Love Choir Wrecsam, y mae ei aelodau wedi profi digartrefedd, caethiwed a materion iechyd meddwl, Wrexham Singing Hands o Glwb y Byddar Wrecsam a’r grŵp iechyd meddwl ukelele o Rhyl, Mind Tones.

Yn ddiweddar fe wnaeth yr Ŵyl ryngwladol estyn allan i’r gymuned fusnes leol i sicrhau cyllid er mwyn sicrhau y gall barhau i ddarparu’r Prosiect Cynhwysiant. Bydd y rhodd Caredig gan Grosvenor Insurance Services yn helpu i ariannu costau’r prosiect gan sicrhau y gall amrywiaeth eang o ddoniau amrywiol o Gymru a swydd Amwythig berfformio yn yr Eisteddfod Ryngwladol eleni.

Dywedodd Sandra Humphreys, Cadeirydd Cangen Wrecsam Grosvenor Insurance Services: “Roeddem wedi ein syfrdanu gan y grwpiau hynod dalentog lleol a’r gwaith ysbrydoledig oedd yn rhan o Brosiect Cynhwysiant Eisteddfod Llangollen y llynedd, wrth iddynt ddathlu 10 mlynedd o’r fenter.

“Rydym yn falch iawn o gefnogi’r achos gwych hwn sy’n uno grwpiau cymunedol lleol, yn datblygu hyder pobl ac yn eu helpu i gyflawni pethau anhygoel.”

Cyhoeddwyd “Tapestri” fel thema’r prosiect ar gyfer 2019, syniad a ysbrydolwyd gan ddyfyniad gan Maya Angelou – “Dylen ni i gyd wybod bod amrywiaeth yn gwneud tapestri cyfoethog, ac mae’n rhaid i ni ddeall bod pob llinyn yn y tapestri yn gyfartal o ran gwerth waeth beth fo eu lliw”.

Dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod Llangollen, Dr Edward-Rhys Harry, cerddoriaeth: “Mae cynnig cyfle cyfartal i bawb i gyfrannu at heddwch y byd ac undod yn rhywbeth mae Llangollen Eisteddfod yn gweithio’n ddiflino i’w hyrwyddo.

“Diolch i gefnogaeth hael Grosvenor Insurance Services gyda’u rhodd tuag at gost y Prosiect Cynhwysiant, mae wedi gallu parhau â’i waith yn newid bywydau ac yn galluogi pobl o bob cefndir i berfformio ar lwyfan yr Eisteddfod.”

Eleni, bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn rhedeg o ddydd Llun 1 – ddydd Sul 7 Gorffennaf gyda chystadlaethau a pherfformiadau yn rhedeg bob dydd a nos, gan gynnwys Jools Holland, Rolando Villazón a Gipsy Kings