Eisteddfod Llangollen nawr yn derbyn Ceisiadau Grŵp ar gyfer 2019

Gŵyl gerddoriaeth, dawns a heddwch yn dechrau’r broses gofrestru ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol 2019

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn galw ar grŵpiau talentog i ymuno â chantorion, dawnswyr ac offerynwyr rhyngwladol eraill a chofrestru ar gyfer cystadlaethau yr Eisteddfod, fydd yn rhedeg o 2il – 7fed Gorffennaf 2019.

(rhagor…)

Gwobr Côr Plant y Byd cyntaf i Loegr

Mae Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen wedi croesawu arweinydd côr Cantabile Hereford Cathedral School, Jo Williamson i gasglu eu gwobr fawreddog Côr Plant y Byd.

Ar ôl gadael yr ŵyl y mis diwethaf heb sylweddoli eu bod wedi ennill, mae’r côr buddugol bellach wedi derbyn eu gwobr o’r diwedd. Roedd y wobr ar y cyd â’r British Columbia Girls’ Choir o Ganada, y ddau gyda sgôr o 89.7 yr un yn golygu eu bod hefyd yn derbyn gwobr Owen Davies, sydd yn wobr uchel iawn ei pharch.

(rhagor…)

Gall gwir gyfeillgarwch deithio’r byd

Eisteddfod Ryngwladol yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Cyfeillgarwch

Eleni ar Ddiwrnod Rhyngwladol Cyfeillgarwch, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn anrhydeddu perthnasau sydd wedi eu creu dros 70 mlynedd ers sefydlu’r ŵyl – gan bwysleisio pwysigrwydd cyfeillgarwch yr 800 o wirfoddolwyr sy’n cefnogi’r wythnos o weithgareddau. Bob blwyddyn, mae tref wledig Llangollen yn byrlymu gyda cherddoriaeth, chwedloniaeth a dawns, gan groesawu hyd at 50,000 o ymwelwyr a 4,000 o berfformwyr o bedwar ban byd.

Bwriad Diwrnod Rhyngwladol Cyfeillgarwch (30ain Gorffennaf), a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig, yw annog mwy o bobl i greu a dathlu cyfeillgarwch. Yn y pen draw, y gobaith yw lleihau’r siawns o anghyfiawnder, rhyfel, tlodi a llawer mwy.

(rhagor…)

C5 Dawnsio yn y stryd

Dydd Sadwrn 7 Gorffennaf

Position Group Name Place Country Marks
1 Real Folk Cultural International Academy Punjab India 91.5
2 Gabru Panjab de Punjab India 89.5
3 Spraoi Castleblayney Iwerddon 87
4 QYPRILLINJTE E ROSHNIKUT BERAT Albania 82.5

B3 Cerddor Rhyngwladol Ifanc

Dydd Iau 5 Gorffennaf

Position Soloist’s Name Place Country Marks
1 Epsie Thompson Cymru Cymru 93
2 Manon Browning Wales Cymru 92
3 George Fradley England Lloegr 90

B7 Unawd Lleisiol 16 – 19

Dydd Iau 5 Gorffennaf

Safle Enw Lle Gwlad Marc
1 Hoi Kei Garnet Li Hong Kong Hong Kong 90
2 Birke Jakobson Estonia Estonia 88
3 Anna Dias England Lloegr 86

B5 Unawd Gwerin Agored Offerynnol

Dydd Iau 5 Gorffennaf

Safle Enw Lle Gwlad Marc
1 Sing Fat Wai Hong Kong Hong Kong 91
2 Wai Lok Maximillion Hong Kong Hong Kong 89
3 Miao Zhang China Tsieina 87

A10 Grŵp Rhyngwladol Acapela

Dydd Iau 5 Gorffennaf

Safle Enw Grwp Lle Gwlad Marc
1 Aroha Junior Choir Shillong India 91
2 Ysgol Gerdd Ceredigion Castellnewydd Emlyn Cymru 89.7
3 Golden Gat Men’s Chours San Francisco UDA 88.3
4 Tees Valley Youth Choir Teeside Lloegr 85
5 Afterglow St. Johns, Newfoundland Canada 85