Canlyniadau'r chwilio: eisteddfod

Noson o gerddoriaeth werin fyrlymus gyda MABON

Fe ddaeth llwyfan Eisteddfod Llangollen yn fyw gyda melodïau gwerin fyrlymus nos Iau, diolch i fand Jamie Smith, Mabon, a’u steil chwareus wrth gyflwyno casgliad egnïol o gerddoriaeth werin Gymraeg traddodiadol.

Cerddoriaeth Cymru wrth galon dathliadau Llangollen

Nos Fercher, fe gynhaliwyd noson gyfareddol o gerddoriaeth Gymreig yn Eisteddfod Llangollen yng nghwmni’r soprano Shân Cothi a’r tenor Rhodri Prys Jones. Roedd y ddau unawdydd yn canu i gyfeiliant cerddorfa Sinffonieta Prydain, wnaeth hefyd berfformio gyda’r tenor byd enwog, Rolando Villazón, mewn gala glasurol nos Fawrth.