Canlyniadau'r chwilio: eisteddfod

Ardal BIWS yr Eisteddfod Ryngwladol yr un gyntaf o’i bath yng Nghymru

Gŵyl ryngwladol o fri fydd y digwyddiad mawr cyntaf yng Nghymru i ddarparu gofod ymlacio diogel arbennig i bobl ag anghenion arbennig ac ychwanegol. Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni yn ôl yn fyw eto i ddathlu ei 75 mlwyddiant dros bedwar diwrnod, gan ddechrau ar ddydd Iau, Gorffennaf 7, a bydd yn cynnwys ardal… Darllen rhagor »

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – Tocynnau 2022

Mynediad i’r Maes Tocynnau Diwrnod y Pafiliwn/Cystadlaethau Cyngerdd gydag Anoushka Shankar a Manu Delago Côr y Byd, Pencampwyr Dawns a Llais y Dyfodol 2022 Yn ôl Mewn Harmoni: Aled Jones a Russell Watson Ymweliad Ysgol

Penodi Cynhyrchydd Gweithredol newydd ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Mae’n bleser gan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyhoeddi penodiad Camilla King fel ein Cynhyrchydd Gweithredol. Mae Camilla King yn ymuno ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fel Cynhyrchydd Gweithredol o’i rôl fel Pennaeth Rhaglennu yng Ngŵyl Gerdd Cheltenham. Yn brofiadol fel rhaglennydd cerddoriaeth glasurol, a rheolwr prosiect a digwyddiadau gyda gyrfa 20 mlynedd yn y sectorau… Darllen rhagor »

Eisteddfod Llangollen yn Galw – Ewch Ati i Bwytho!

Mae’r artist rhyngwladol Luke Jerram yn bwriadu defnyddio ffabrig i weddnewid pont Llangollen! Mae Eisteddfod Llangollen yn galw am bobl i roi help llaw i drawsnewid Pont nodedig Llangollen yn waith celf enfawr er mwyn lansio gŵyl eleni. Mae’r Eisteddfod wedi comisiynu’r artist rhyngwladol o fri Luke Jerram i greu’r gwaith celf newydd. Mae’n bwriadu lapio’r bont 60 metr o hyd mewn clytwaith anferth sy’n adlewyrchu crefftau a diwylliannau Cymru ynghyd â’r cenhedloedd sy’n cymryd rhan yn yr ŵyl.

Yr Eisteddfod Ryngwladol Gyntaf 1947: ffilm newyddion Movietone

Mae wyth munud ac ugain eiliad y ffilm hon yn gofnod clyweledol unigryw o’r ŵyl gyntaf yn 1947. Ynddi mi fyddwch yn gweld a chlywed y corau buddugol. Byddwch yn rhannu’r cyffro gyda’r gynulleidfa sy’n llenwi’r babell fawr, a wnaed o gynfas dros ben o’r rhyfel gyda 6000 o seddi wedi’u benthyg o ystafelloedd ysgol,… Darllen rhagor »

Cyfarwyddwr a enillodd Oscar yn gwneud ffilm am Eisteddfod Llangollen

Mae “The World Still Sings” yn ffilm ddogfen o Eisteddfod Ryngwladol 1964, ac fe’i cyfarwyddwyd gan Jack Howells a’i chynhyrchu ar y cyd gan gwmni Howells ei hun a Chwmni Esso Petroleum, Ltd. Yn 1962 enillodd Howells wobr Oscar am ei raglen ddogfen ar Dylan Thomas, ac ar adeg ffilm yr Eisteddfod roedd yn gweithio… Darllen rhagor »

Llangollen Arlein yn cyflwyno neges arbennig gan Dywysog Cymru ynghyd a’r Neges Heddwch Rhyngwladol gyntaf erioed arlein fel rhan o raglen ‘Wythnos yr Eisteddfod’

Y mis diwethaf, lansiodd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ‘Llangollen Arlein’ #cysyllturbyd, sef cynnig digidol i ddod â’i chymuned fyd-eang ynghyd yn dilyn gohirio gŵyl eleni. Yr wythnos nesaf, yn yr hyn a fyddai wedi bod yn ‘Wythnos yr Eisteddfod’, bwriedir darparu rhaglen o weithgareddau arlein i roi blas o’r Eisteddfod Ryngwladol i’r nifer fawr o… Darllen rhagor »

Eisteddfod Ryngwladol yn cyhoeddi Llangollen Ar-lein

#CysyllturByd 1 Mehefin – 11 Gorffennaf 2020 Mae’n bleser gan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyhoeddi Llangollen Ar-lein #cysyllturbyd, a fydd ar gael i’w gwylio am ddim rhwng 1 Mehefin ac 11 Gorffennaf, er mwyn sicrhau ein bod yn aros adref gyda’n gilydd ond yn parhau i hyrwyddo cymuned ryngwladol gysylltiedig yn ystod yr amseroedd anodd… Darllen rhagor »

**Wedi ganslo** (Diweddariad 16/3/20) Eisteddfod Llangollen yn dathlu ‘cyfeillgarwch, cytgord ac ewyllys da’ wrth gynnal ei hail Gymanfa Ganu flynyddol

DIWEDDARIAD 16/3/20 ***Rydym wedi bod yn cadw llygad ar y Coronafeirws (COVID-19) wrth i’r sefyllfa ddatblygu ac wedi dod i’r penderfyniad i ganslo ein Cymanfa Ganu ar 27 Mawrth yn Eglwys Sant Collen. Bydd cwsmeriaid a oedd eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y Cymanfa Ganu yn cael eu had-dalu. Byddwn yn parhau i fonitro… Darllen rhagor »

Eisteddfod Llangollen yn Lansio Rhaglen 2020

Mae’r dathliad unigryw o heddwch a harmoni rhyngwladol yn dychwelyd am y 74ain tro, gyda pherfformiadau a chystadlaethau dyddiol gan rai o artistiaid a chorau gorau’r byd