Canlyniadau'r chwilio: eisteddfod

Bob tro yn cael fy synnu gan yr Eisteddfod yma!

(English) We are perpetually in awe about this Eisteddfod and what you guys achieve. Every year our eyes and ears are challenged by something new and this year’s Choir of the World finale was amazing.

Eisteddfod Llangollen nawr yn derbyn Ceisiadau Grŵp ar gyfer 2019

Gŵyl gerddoriaeth, dawns a heddwch yn dechrau’r broses gofrestru ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol 2019 Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn galw ar grŵpiau talentog i ymuno â chantorion, dawnswyr ac offerynwyr rhyngwladol eraill a chofrestru ar gyfer cystadlaethau yr Eisteddfod, fydd yn rhedeg o 2il – 7fed Gorffennaf 2019.

Alfie Boe yn Serennu ar Noson Agoriadol Eisteddfod Ryngwladol

Cafwyd agoriad rhagorol i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2018 neithiwr [nos Fawrth 3ydd Gorffennaf], wrth i’r tenor poblogaidd Alfie Boe feddiannu llwyfan y pafiliwn. Yn adnabyddus fel ‘hoff denor Prydain’ cafodd yr artist recordio hynod lwyddiannus, a’r seren West End a Broadway gwmni ei ensemble o gerddorion gwych, wrth iddo berfformio rhai o’i ganeuon newydd… Darllen rhagor »

‘Pantosaurus’ a’r NSPCC yn ymweld ag Eisteddfod Llangollen i helpu cadw plant yn ddiogel

Fe gafodd cannoedd o blant ysgol gyfle i weld perfformiad cerddorol unigryw yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni, gan hefyd ddysgu sut i ddiogelu eu hunain. Camodd masgot yr elusen blant blaenllaw NSPCC, y deinosor ‘Pantosaurus’, ar y prif lwyfan ddydd Mawrth (3ydd Gorffennaf) i hyrwyddo ymgyrch ‘PANTS’ i ddisgyblion o tua 45 o ysgolion…. Darllen rhagor »

Eisteddfod Llangollen yn Anfon Neges Heddwch i Bawb

Mae Eisteddfod Llangollen yn dathlu deng mlynedd o’i Brosiect Cynhwysiad drwy gomisiynu darn perfformio newydd sbon, SEND A Message, ar ddydd Mercher 4ydd Gorffennaf. Mae’r prosiect cwbl gynhwysol, sy’n hyrwyddo harmoni a hygyrchedd i bawb yn y celfyddydau perfformio, yn dathlu ei ddegfed blwyddyn gyda darn perfformio a ysgrifenwyd gan y bardd Aled Lewis Evans… Darllen rhagor »

Trefniadau Eisteddfod Ryngwladol yn dwyn ffrwyth

Cafodd cefn gwlad Cymru ei lenwi gyda cherddoriaeth yr wythnos diwethaf, pan wnaeth aelodau Côr Meibion Froncysyllte arddangos eu techneg lleisiol wrth hedfan trwy’r awyr ar siglen bum sedd fwyaf Ewrop. Gan gyrraedd uchderau o hyd at 80 troedfedd, roedd yr aelodau rhwng 60-80 oed yn wynebu her anarferol wrth iddyn nhw orfod dal eu… Darllen rhagor »

Y Cavern Club yn cydweithio gydag Eisteddfod Ryngwladol

Cyhoeddodd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen heddiw y bydd clwb cerddoriaeth enwocaf y byd, The Cavern Club, yn cynnal llwyfan pop-yp am y tro cyntaf erioed yn yr ŵyl eleni. Fe fydd artistiaid o’r clwb yn Lerpwl yn ymuno hefo’r Kaiser Chiefs ym mharti olaf yr ŵyl, Llanfest, ar ddydd Sul 8fed Gorffennaf – union 50… Darllen rhagor »

Eisteddfod Ryngwladol yn dathlu Diwrnod y Piano trwy gyhoeddi manylion am berfformiad i ddau biano

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Piano [dydd Iau 29 Mawrth] mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi rhaglen ar gyfer perfformiad hir ddisgwyliedig ei Chyfarwyddwr Cerdd, Vicky Yannoula, â’r pianydd Peter Jablonski. Gan ffurfio rhan o’r Casgliad Clasurol ar ddydd Mercher 4ydd Gorffennaf, fe fydd y pianyddion Vicky a Peter yn camu ar lwyfan y… Darllen rhagor »