Erthyglau gan marketing

Jodi Bird yw Llais Sioe Gerdd Ryngwladol 2019

Perfformiwr Cymraeg sydd wedi cipio teitl Llais Sioe Gerdd Ryngwladol yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2019.

Fe wnaeth Jodi Bird, 21, syfrdanu’r gynulleidfa a’r beirniaid gyda’i dehongliad o Woman, a berfformiwyd yn wreiddiol gan Stephanie J Block, Tell me on a Sunday gan Marti Webb a 14g, gan Janine Tesori ond a waned yn enwog gan Kristin Chenoweth, ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol yn y rownd derfynol ar ddydd Iau Gorffennaf 4ydd.

(rhagor…)

Côr Plant y Byd

Safle Côr Gwlad
Enillydd Bax Choir, Heath Mount School, Hertford Lloegr

Gwobr Arweinydd – Cassandra White (Bax Choir, England)

Cerddoriaeth Cymru wrth galon dathliadau Llangollen

Nos Fercher, fe gynhaliwyd noson gyfareddol o gerddoriaeth Gymreig yn Eisteddfod Llangollen yng nghwmni’r soprano Shân Cothi a’r tenor Rhodri Prys Jones.

Roedd y ddau unawdydd yn canu i gyfeiliant cerddorfa Sinffonieta Prydain, wnaeth hefyd berfformio gyda’r tenor byd enwog, Rolando Villazón, mewn gala glasurol nos Fawrth.

(rhagor…)