Erthyglau gan marketing

Chwaraewr sacsoffon o fri yn dweud bod Llangollen yn creu sêr cerdd y dyfodol

Yn ôl Amy Dickson roedd perfformio mewn eisteddfodau yn ôl yn ei mamwlad Awstralia, ers pan oedd yn bump oed yn baratoad perffaith i’w gyrfa ddisglair fel un o brif chwaraewyr sacsoffon y byd.
Ac yn ôl Amy, sydd wedi cael ei henwebu am wobr Grammy ddwywaith, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn gwneud yr un peth ar gyfer brif gerddorion y dyfodol.
Datgelwyd un o gyfrinachau ei llwyddiant gan y chwaraewr sacsoffon o fri, sydd wedi chwarae mewn cyngherddau nodedig ledled y byd ac sydd wedi rhyddhau rhes o gryno ddisgiau clasurol poblogaidd, pan gamodd i’r llwyfan fel Llywydd y Dydd yr Eisteddfod ddoe (dydd Iau).
(rhagor…)

Terry Waite yn rhybuddio cynulleidfa Eisteddfod Llangollen fod y ‘Trydydd Rhyfel Byd eisoes wedi dechrau’

Mae’r Trydydd Rhyfel Byd eisoes wedi dechrau, yn ôl yr ymgyrchydd heddwch Terry Waite CBE.
Cyflwynwyd y rhybudd gan Mr Waite wrth draddodi anerchiad pwerus i gynulleidfa Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Ef yw Llywydd yr Eisteddfod ac mi dreuliodd bron i bum mlynedd yn gaeth fel gwystl grŵp terfysgol yn Beirut.
(rhagor…)

‘Llangollen’s Got Talent’, meddai Cefin Roberts

Mae Cefin Roberts, arweinydd y côr o Gymru a ddaeth mor agos i ennill Britain’s Got Talent, wedi dweud bod ei ddyled e a’r côr i Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol yn Llangollen yn enfawr.

Roedd Cefin yn siarad wrth baratoi i fod yn aelod o dîm cyflwyno S4C ar gyfer y darllediad nos Sadwrn o gystadleuaeth Côr y Byd.
(rhagor…)

Ymateb anhygoel i apêl rhyngwladol er mwyn achub gŵyl eiconig

Mae apêl byd-eang brys eisoes wedi denu £40,000 mewn addewidion er mwyn helpu i sicrhau dyfodol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Dim ond penwythnos diwethaf y cafodd yr apêl ei lansio yn dilyn y newyddion bod digwyddiad eleni yn wynebu colled ariannol o ganlyniad i werthiant tocynnau siomedig.
Mae swyddogion yr Eisteddfod wrth eu bodd gyda’r ymateb ac maent yn annog cefnogwyr i barhau i gyfrannu er mwyn ceisio cyrraedd y targed £70,000 i glirio’r llyfrau eleni.
Mi wnaeth cynulleidfa cyngerdd Burt Bacharach, oedd yn codi’r llen ar ddigwyddiad eleni, roi bron i £500 yn y bwcedi casglu yn ystod y digwyddiad a dilynwyd hynny gan lif cyson o roddion, mawr a bach drwy’r wythnos.
(rhagor…)

Gemma yn chwythu nodau swynol

Mae myfyriwr o Heswall wedi cipio un o’r prif wobrau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Llwyddodd Gillian Blair, 24 oed, sy’n astudio cerddoriaeth yn y Royal Northern College of Music Cerdd ym Manceinion, i ddod i’r brig mewn cystadleuaeth safonol a chipio teitl y Cerddor Ifanc Rhyngwladol am y tro cyntaf erioed, ynghyd â gwobr ariannol o £1,500 a’r fedal ryngwladol.
(rhagor…)

Cystadleuwyr Eisteddfod yn cael blas ar deisennau cri’r Village Bakery a wnaed gan ddwylo brenhinol

Mae cystadleuwyr llwglyd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cael cyfle i flasu teisennau cri Cymreig a wnaed gan ddwylo brenhinol.
Ar ddydd Mawrth ymwelodd y Tywysog Charles a Duges Cernyw â phencadlys y Village Bakery ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam, ac yn ystod taith o amgylch yr ardal gynhyrchu gwisgodd y pâr brenhinol gotiau a hetiau gwyn er mwyn rhoi help llaw i goginio’r bwyd blasus traddodiadol Cymreig ar radell boeth.
Y diwrnod wedyn dosbarthwyd 200 o bacedi am ddim o’r teisennau bach blasus gan dîm o’r becws arobryn a’u rhoi yn rhodd i adran lletygarwch yr Eisteddfod – gan gynnwys y teisennau cri y bu’r pâr brenhinol yn helpu i’w paratoi. (rhagor…)

After falling in love with Eisteddfod as a visitor Bill returns as a volunteer

ANYONE visiting from China or Hong Kong will find an especially warm welcome at this week’s Llangollen International Musical Eisteddfod.
Because on hand to greet them with a big smile and in their own language will be a man who fell in love with the annual festival after first attending as a visitor himself and now returning as a volunteer.
(rhagor…)

Gorilas lliwgar anferth yn ymweld ag Eisteddfod Llangollen

Bydd gorilas anferth o bob lliw yn cadw llygad ar Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni.
Bydd y 10 gorila haearn – sydd yn 6 troedfedd o uchder ac yn pwyso yn agos i 16 stôn – yn ymddangos am y tro cyntaf wrth i’r ŵyl enwog hon o gerddoriaeth a dawns gychwyn ddydd Mawrth, Gorffennaf 7.
Cafodd y creaduriaid unigryw hyn – bob un yn cydio mewn clwstwr mawr o fananas – eu llunio yn y Ganolfan Gwaith Haearn Brydeinig ger Croesoswallt.
Wedi Gŵyl Llangollen, bydd y gorilas yn mynd ar daith o gwmpas digwyddiadau eraill ledled Prydain.
Y tu ôl i’r syniad mae Clive Knowles, 53 oed, cadeirydd y Ganolfan Gwaith Haearn Brydeinig, sydd yn un o noddwyr yr Eisteddfod eleni. (rhagor…)

Eisteddfod Llangollen yn fflam o obaith

Mae’r cyfansoddwr Brenhinol Paul Mealor wedi disgrifio Gŵyl Gerddorol Ryngwladol Llangollen fel fflam o obaith a ffydd mewn byd llawn helynt.

Dywed yr Athro Mealor, sy’n enedigol o Lanelwy, bod yr ŵyl yn dod â phobl o bedwar ban byd at ei gilydd trwy gyfrwng iaith fydeang cerddoriaeth. Daeth yn enwog dros nos wedi iddo gyfansoddi Ubi Caritas et Amor ar gyfer priodas y Tywysog William a Catherine Middleton yn 2011 a chyfansoddi Wherever You Are, a gyrhaeddodd rhif un yn siartiau Nadolig i’r Military Wives dan arweiniad Gareth Malone.

Eleni, bydd yr Athro Mealor yn bresennol yn Eisteddfod Llangollen am yr eildro fel beirniad ac am y tro cyntaf fel is-lywydd yr ŵyl hanesyddol hon sydd yn cychwyn ddydd Mawrth, 7 Gorffennaf. (rhagor…)