Canlyniadau'r chwilio: fyd

Gŵyl wych i’r holl fyd!!

(English) An awesome festival for the whole world, it knows how to attract the finest musicians and the most talented dancers. No wonder they are much loved; even the parades are outstanding and fun.

‘Côr mwyaf amlieithog Prydain’ yn dathlu 70ain mlynedd ers sefydlu Eisteddfod Ryngwladol

Ymarferion olaf cyn perfformiad amlieithog yn cael eu cynnal ar ben-blwydd swyddogol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen [dydd Sadwrn 11eg Mehefin]. Fe all côr o 80 o gantorion amatur fod y ‘côr mwyaf amlieithog ym Mhrydain’ wedi iddyn nhw ddysgu darnau mewn wyth iaith wahanol o fewn dim ond 10 ymarfer. Fe fydd y ‘Corws Dathlu’… Darllen rhagor »

Ymweliad arbennig meibion sefydlydd gŵyl eiconig i’r 70ain Eisteddfod

Mae meibion sylfaenydd yr ŵyl eiconig wedi gwneud ymweliad emosiynol fel gwesteion arbennig i 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Bu’r ddau frawd, Peter a Selwyn Tudor yn ymweld â’r digwyddiad ddydd Gwener, a chawsant eu croesawu gan lywydd yr Eisteddfod, Terry Waite CBE a’r cadeirydd, Rhys Davies, ac fe arhosodd Selwyn a’i deulu i’r cyngerdd… Darllen rhagor »

Katherine fydd Carmen

Datgelwyd mai’r seren canu clasurol Katherine Jenkins OBE fydd prif atyniad Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen y flwyddyn nesaf. Dywed y mezzo soprano dawnus, ei bod hi’n falch iawn o gael dychwelyd i’r ŵyl eiconig am y tro cyntaf ers ei hymddangosiad diwethaf yn 2010. Bydd cynulleidfa noson agoriadol Eisteddfod 2016 yn cael mwynhau Katherine yn… Darllen rhagor »

Lansio apêl fyd-eang i ddiogelu’r eisteddfod ryngwladol

Bwriedir lansio apêl fyd-eang brys i ddiogelu dyfodol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Nod yr apêl yw codi £70,000 oherwydd mae’n argoeli y bydd digwyddiad eleni yn wynebu colled ariannol o ganlyniad i werthiant tocynnau siomedig.

Lansio Yn Ystod y Dydd yn y Pafiliwn yn Eisteddfod Llangollen!

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen heddiw wedi lansio ei rhaglen bafiliwn yn ystod y dydd ar gyfer gŵyl graidd eleni. Mae tocynnau ar gael nawr i weld dros 3,000 o gyfranogwyr o gorau, grwpiau dawns, ensembles ac unawdwyr o 34 o wledydd gan gynnwys Awstralia, Burundi, Canada, Tsieina, Japan, Tanzania, Trinidad a Tobago, a Zimbabwe…. Darllen rhagor »

Tocynnau Aur+ Ar Gael Ar Gyfer Chwe Chyngerdd Craidd Eisteddfod Llangollen

Mae cyfle ‘euraid’ wedi codi i bobl sy’n mwynhau cerddoriaeth fwynhau Chwe Chyngerdd Craidd Eisteddfod Llangollen mewn steil yr haf hwn. Bydd Wythnos Graidd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn agor eleni ar Ddydd Mawrth Gorffennaf yr 2il gyda phrif set gan yr arwr cerddorol Tom Jones, sy’n cychwyn y chwe diwrnod o gyngherddau gyda’r nos,… Darllen rhagor »

GYMANFA GANU RYNGWLADOL I DDATHLU DYDD GWYL DEWI I’W CHYNNAL GAN EISTEDDFOD RYNGWLADOL LLANGOLLEN

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen newydd gyhoeddi eu bod am gynnal Gymanfa Ganu Ryngwladol, i ddathlu Dydd Gwyl Dewi fel eu digwyddiad codi arian diweddaraf. Fydd y Gymanfa ar Nos Sul, 3ydd o Fawrth yn Eglwys Sant Collen, Llangollen. Arweinydd y Gymanfa fydd Trystan Lewis, arweinydd poblogaidd iawn, ac organydd y noson fydd Owen Maelor Roberts…. Darllen rhagor »