Canlyniadau'r chwilio: eisteddfod

Digwyddiad rhyngwladol go iawn

Mae’n ddigwyddiad rhyngwladol go iawn gyda chorau a dawnswyr yn dod yno o bob cwr o’r byd. Mae’r Eisteddfod yn dathlu dod â gwledydd a chymunedau at ei gilydd trwy eu diddordeb cyffredin mewn cerddoriaeth a diwylliant sy’n goresgyn unrhyw rwystrau iaith, gan wneud ffrindiau ar draws y cenhedloedd a’r gwledydd.

Llangollen yn derbyn ceisiadau ar gyfer 2018

Gŵyl gerddoriaeth, dawns a heddwch yn dechrau cymryd enwau ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol 2018 Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn galw ar gantorion, dawnswyr ac offerynwyr talentog o Gymru i ymuno âg ymgeiswyr rhyngwladol eraill a chofrestru i gystadlu yn yr ŵyl, fydd yn rhedeg o 3-8 Gorffennaf 2018. Fe fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn… Darllen rhagor »

Manic Street Preachers yn meddiannu llwyfan Llanfest 2017

Band roc eiconig yn cloi Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyda diweddglo tanllyd Fe ddaeth Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddiweddglo mawreddog neithiwr gyda set gan y band roc Cymreig Manic Street Preachers yn Llanfest 2017. Bu i ymddangosiad cyntaf un y grŵp yn Llangollen godi to’r Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol wrth iddyn nhw berfformio rhai o’u… Darllen rhagor »

Pawb ar eu traed ar gyfer perfformwyr ‘Byd Enwog’ Tosca

Gwelwyd y dorf yn Eisteddfod Llangollen yn cael ei chymell i godi ar ei thraed mewn ymateb i berfformiad syfrdanol o Tosca gan Puccini nos Fawrth 4ydd o Orffennaf. Bu i’r sêr opera byd enwog, Syr Bryn Terfel, Kristine Opolais a Kristian Benedikt rannu’r llwyfan am y tro cyntaf erioed i gyflwyno datganiad pwerus ac… Darllen rhagor »

Grŵp o’r UDA yn cipio teitl ‘Côr y Byd’

Daeth wythnos wych o gystadlu i ben gyda brwydr gyffrous am deitlau ‘Côr y Byd’ a ‘Pencampwyr Dawns y Byd’ Fe ddaeth dathliadau pen-blwydd 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i uchafbwynt cyffrous neithiwr [nos Sadwrn 8fed Gorffennaf] wrth i ddau grŵp rhyngwladol ennill prif gystadlaethau’r ŵyl. Wedi rownd derfynol safonol iawn, côr The Aeolians o… Darllen rhagor »

Tenoriaid yn llenwi dyffryn â chân

Cantorion yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn gosod ‘record byd’ answyddogol Mae wythdeg naw tenor wedi creu record byd newydd wedi iddyn nhw lenwi Dyffryn Dyfrdwy gyda seiniau’r gan eiconig Nessum Dorma, a wnaed yn enwog gan y seren opera Pavarotti yng Nghwpan y Byd yr Eidal 1990. Cafodd y perfformiad annisgwyl ei gynnal ar… Darllen rhagor »

“Ysbryd hylifol… dyna beth yw hyn”

Y canwr byd enwog Gregory Porter yn canmol Eisteddfod Ryngwladol yn ystod noson o ganu jazz a soul. Bu’r canwr jazz, blues a soul Gregrory Poter yn canu clodydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ystod ei berfformiad gwefreiddiol yno ar ddydd Gwener 7fed Gorffennaf. Fe ddiolchodd i’r Eisteddfod am ei hymroddiad i ddod a phobl at… Darllen rhagor »

Cymru’n Croesawu’r Byd mewn Dathliad Rhyngwladol

Fe roddwyd croeso cynnes Cymreig i gystadleuwyr rhyngwladol neithiwr (nos Iau 6ed Gorffennaf) yn ystod Dathliad Rhyngwladol Eisteddfod Llangollen yn 70ain. Fe gafodd gorymdaith liwgar o gynrychiolwyr o 29 gwlad wahanol eu diddanu gan berfformiad pwerus o un o hoff emynau’r Cymry, Calon Lân, gafodd ei chanu gan Only Boys Aloud. Ar ôl yr orymdaith,… Darllen rhagor »

Cyhoeddi dau enillydd i Wobr Heddwch Rhyngwladol

Mae corff sy’n rhoi pwyslais ar leddfu dioddefaint a menter arall sy’n annog pobl i ildio’u harfau ill dau wedi ennill Gwobr Heddwch Rotary International. Cafodd y corff British Ironworks o Groesoswallt a Médecins Sans Frontières eu cyd-wobrwyo yng nghyngerdd agoriadol dathliadau 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Llun 3ydd Gorffennaf.

Neges Heddwch Ysgol Y Gwernant – Lluniau

Disgyblion o Ysgol Y Gwernant, Llangollen yn ymarfer cyn eu perfformiad o’r Neges Heddwch. Fe fydd y disgyblion lleol yn perfformio’r Neges Heddwch – uchafbwynt blynyddol yn yr ŵyl – ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol ar ddydd Iau 6ed Gorffennaf, fel rhan o’r Dathliad Rhyngwladol. Fe fydd perfformiad hefyd yn cael ei gynnal yfory (4ydd… Darllen rhagor »