Canlyniadau'r chwilio: fyd

Ysgol iaith Llangollen yn gwobrwyo ysgoloriaeth i gystadleuwyr yr Eisteddfod

BYDD un cystadleuydd lwcus o dramor yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni’n manteisio ar gwrs Saesneg gyda’r holl gostau wedi’u talu diolch i ysgol iaith newydd ei ail-lansio’r dref. Wedi masnachu’n llwyddiannus dan yr enw ECTARC o’i safle yn Parade Street ers nifer o flynyddoedd, mae’r ysgol bellach wedi’i hail-frandio fel The Mulberry School of… Darllen rhagor »

Merle a’i marimba!

Mae cael hyd i farimba wedi peri penbleth a thipyn o gur pen i Merle Hunt yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr wythnos hon. Mae’r marimba yn offeryn MAWR! Offeryn taro ydio sydd yn wyth troedfedd o hyd ac yn pwyso dros 350 pwys.  Cydlynydd y cystadleuwyr tramoryn yr eisteddfod yw Merle, a’r dasg a… Darllen rhagor »

Côr o Galifornia yn sicrhau llwyddiant mewn gŵyl gerddorol ryngwladol enwog

Llwyddodd The Bob Cole Conservatory Chamber Choir i ennill Tlws Pavarotti yng nghystadleuaeth Côr y Byd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Ymhlith y rhai a ddaeth o fewn trwch blewyn i’r brig roedd Côr Glanaethwy, a lwyddodd i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Britain’s Got Talent. Llwyddodd yr enillwyr i guro corau o Estonia, y Weriniaeth… Darllen rhagor »

Eisteddfod Llangollen yn ennill gwobr heddwch gyntaf Rotari Rhyngwladol

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yw’r gyntaf i ennill gwobr newydd bwysig i’r rhai sy’n hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ryngwladol. Bydd Gwobr Heddwch Rhyngwladol y Rotari’n cael ei ddyfarnu bob blwyddyn gan Ardal 1180 y Rotari, ar y cyd gyda’r Eisteddfod. Ac mae’r aelod arweiniol o’r mudiad Rotari sydd wedi cael y syniad o’r wobr newydd… Darllen rhagor »

Conswl Portiwgal yn creu cysylltiadau diwylliannol newydd gyda gŵyl eiconig

Mae arweinydd cymuned Portiwgeaidd yn Wrecsam wedi bod yn cynorthwyo i ailgynnau cysylltiadau diwylliannol rhwng Portiwgal ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Roedd côr merched o Oporto ymysg y cystadleuwyr yn yr ŵyl gyntaf yn 1947.# Wedyn, ddwy flynedd yn ôl, roedd côr o Bortiwgal yn un o uchafbwyntiau ffair haf hosbis yng nghanol tref Wrecsam…. Darllen rhagor »

Yr ŵyl orau yn y byd

Cafwyd cyngerdd mawreddog i gloi Eisteddfod Gerddorol Llangollen gyda’r arwr boogie-woogie, Jools Holland, a ddisgrifiodd yr ŵyl fel “yr ŵyl orau yn y byd”. Sêr y cyngerdd i gloi’r ŵyl eleni oedd cyn bianydd ac arweinydd y band Squeeze, yr awdur, y cyflwynydd teledu a radio a’i Gerddorfa Rhythm a Blues. Hefyd yn perfformio yn… Darllen rhagor »

Llafur cariad ffoadur yn gofnod o hanes gŵyl eiconig

Bydd tapestri a grëwyd gan ffoadur o Tsiecoslofacia’r 1950au a ddaeth yn wirfoddolwr gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael ei arddangos yn yr ŵyl y flwyddyn nesaf. Mae’r lliain bwrdd sydd wedi ei fframio wedi ei haddurno â channoedd o lofnodion gan gyn ymwelwyr a chystadleuwyr i’r Eisteddfod. Mae’r lliain yn Swyddfa’r Wasg yr… Darllen rhagor »

Côr o Ynys Môn yn ennill cystadleuaeth y plant yn yr Eisteddfod Ryngwladol

Daw pencampwyr Côr Ieuenctid Eisteddfod Ryngwladol Llangollen o Ynys Môn. Enillodd Côr Ieuenctid Môn y wobr gyntaf yn dilyn cystadleuaeth galed rhwng wyth côr o Gymru a Lloegr. Wrth wylo gyda llawenydd fe gasglodd cyfarwyddwr cerddorol ac arweinydd y côr, Mari Lloyd Pritchard, y tlws rhyngwladol a siec am £500 gan Enid Evans, 94 oed,… Darllen rhagor »