Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi bod yn llwyddiant mawr iawn eleni ac yn ymddangos ei bod am dalu ei ffordd yn ariannol. Llwyddodd tri o’r cyngherddau gyda’r nos i werthu bron bob un tocyn ar eu cyfer, sydd wedi rhoi hwb sylweddol i bethau dros y flwyddyn ddiwethaf, a daeth mwy o ymwelwyr nag… Darllen rhagor »
Canlyniadau'r chwilio: fyd
Y seren opera Bryn Terfel yn ymuno â’r plant mewn gweithdy cerdd Eisteddfod
Mae’r seren opera byd-enwog Bryn Terfel wedi bod yn canu mewn cytgord â phobl ifanc drwy gael hwyl gyda cherddoriaeth yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Gan gymryd seibiant o’r ymarferion ar gyfer Cyngerdd Gala Clasurol yr Eisteddfod, talodd Bryn ymweliad sydyn â’r babell lle’r oedd sefydliad gofal nodedig Parc Pendine yn cynnal bore o weithdai… Darllen rhagor »
Miloedd yn ymddangos i gefnogi gorymdaith fwyaf a gorau’r Eisteddfod ers blynyddoedd
Heidiodd miloedd i strydoedd heulog tref dwristaidd enwog yn Sir Ddinbych i gefnogi gorymdaith fwyaf Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ers blynyddoedd. Cafodd yr orymdaith ei chynnal ar ddydd Gwener yr ŵyl am y tro cyntaf er mwyn rhoi cyfle i fwy o gystadleuwyr sy’n cyrraedd o bob cwr o’r byd i ymuno â’r orymdaith liwgar… Darllen rhagor »
Gwobr Llais y Dyfodol yn ddiogel wrth i Ffrainc ennill y teitl
Mae gwobr ryngwladol Llais y Dyfodol wedi mynd i Ffrainc. Am y tro cyntaf ers dechrau’r gystadleuaeth yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, mae’r fedal ryngwladol wedi gadael Cymru wrth iddi gael ei hennill gan y mezzo soprano Elsa Roux Chamoux, wnaeth synnu’r beirniaid gyda’i pherfformiad.
Mae Llangollen yn ddigwyddiad diwylliannol eiconig sy’n haeddu cefnogaeth yn ôl Gweinidog
Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ddigwyddiad diwylliannol eiconig yng Nghymru, sy’n haeddu cefnogaeth gan y Llywodraeth a’r sector preifat, yn ôl cyn-wleidydd a Gweinidog yn y Swyddfa Gymreig. Dywedodd yr Arglwydd Bourne, Nick Bourne, Arweinydd blaenorol y Ceidwadwyr yng Nghynulliad Cymru ac Is-weinidog presennol yn y Swyddfa Gymreig: “Mae’r Eisteddfod yn hollbwysig i Gymru. Mae’n… Darllen rhagor »
Mae Cymru’n dal i feddwl yn rhyngwladol er gwaethaf Brexit, meddai Ysgrifennydd yr Economi yn yr Eisteddfod
Er bod Prydain wedi pleidleisio i adael Ewrop, mae Cymru’n parhau i fod yn wlad groesawus a chydwladol. Dyna’r neges oddi wrth Ken Skates AC, sydd wedi ei benodi’n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Roedd ar ymweliad ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddoe (dydd Iau).
Teitl côr y plant yn mynd i Indonesia
Roedd baner Indonesia’n chwifio’n uchel uwchben Llangollen ar ôl i Gôr Ieuenctid Pangudi Luhur gael eu coroni’n Gôr Plant y Byd yn yr Eisteddfod Ryngwladol. Roedd llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite CBE, wrth law i gyflwyno’r tlws rhyngwladol i arweinydd y côr, Sonia Nadya Simanjuntak, y cafodd hithau hefyd ei choroni’n arweinydd mwyaf ysbrydoledig y… Darllen rhagor »
Gohebydd rhyfel profiadol yn dweud bod gŵyl yn cynnig gobaith mewn byd tywyll
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn taflu golau disglair gobeithiol yn erbyn tywyllwch yr oes hon. Dyma oedd neges allweddol Martin Bell OBE, gohebydd rhyfel profiadol a chyn-wleidydd, yn ei araith o’r prif lwyfan fel un o Arlywyddion y Dydd yn yr ŵyl. Daeth Mr Bell yn enwog fel y Dyn yn y Siwt Wen… Darllen rhagor »
Yr ymgyrchydd nodedig dros heddwch Terry Waite yn dadorchuddio plac ar safle Eisteddfod gyntaf Llangollen
Ar ddiwrnod cyntaf 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen hanesyddol, dadorchuddiodd ei lywydd, sef yr ymgyrchydd heddwch nodedig, Terry Waite blac ar y maes lle cynhaliwyd yr ŵyl am y tro cyntaf. Llwyfannwyd Eisteddfod 1947 ar beth yw cae chwarae Ysgol Dinas Brân yn Llangollen erbyn hyn. Ei nod oedd helpu lleddfu creithiau’r Ail Ryfel Byd… Darllen rhagor »
Traddodiad y blodau wedi gwreiddio’n ddwfn yn yr Eisteddfod
Mae wedi dechrau gydag ychydig o flodau mewn potiau jam, i guddio polion y pebyll. Ond dros y 70 mlynedd ddiwethaf mae’r traddodiad o harddu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyda blodau wedi dod yn arferiad yr un mor gadarn â’r ŵyl eiconig ei hunan.