Canlyniadau'r chwilio: fyd

Dod o hyd i recordiad amhrisiadwy o Pavarotti yn archifau’r ŵyl.

Mae recordiad o’r côr a lawnsiodd yrfa y tenor o’r Eidal Luciano Pavarotti wedi dod i’r fei yn archifau’r ŵyl gerddorol eiconig. Rheolwr Gweithrediadau’r ŵyl Sian Eagar ddaeth o hyd i’r recordiad CD oedd wedi ei guddio ymysg yr archifau yn swyddfeydd yr Eisteddfod.

Gohebydd rhyfel profiadol yn dweud bod gŵyl yn cynnig gobaith mewn byd tywyll

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn taflu golau disglair gobeithiol yn erbyn tywyllwch yr oes hon. Dyma oedd neges allweddol Martin Bell OBE, gohebydd rhyfel profiadol a chyn-wleidydd, yn ei araith o’r prif lwyfan fel un o Arlywyddion y Dydd yn yr ŵyl.

Julian yr actor o Hollywood yn cymryd rhan mewn noson serennog yng ngogledd Cymru

Mae un o actorion Hollywood sydd wedi gweithio gyda mawrion byd y ffilmiau fel Clint Eastwood a Morgan Freeman yn cymryd rhan mewn perfformiad serennog yng Ngogledd Cymru. Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi llwyddo i sicrhau gwasanaeth Julian Lewis Jones i gymryd rhan yr adroddwr mewn addasiad cyngerdd o opera Carmen gan Georges Bizet,… Darllen rhagor »

Mae am fod yn ‘ansbaredigaethus’!

Bydd cast lliwgar “ansbaredigaethus” yn dod yn fyw mewn gŵyl gerddoriaeth a dawns eiconig. Bydd canmlwyddiant yr athrylith llenyddol Roald Dahl, a aned yng Nghymru, yn cael ei ddathlu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Côr amrywiaeth gyda 100 o aelodau’n canu neges o heddwch

Bydd côr arbennig o dros 100 o blant ac oedolion sy’n dathlu amrywiaeth yn cyflwyno neges glir am heddwch byd wrth berfformio mewn gŵyl eiconig. Daeth cymorth o £8,000 oddi wrth sefydliad elusennol cwmni ynni Scottish Power er mwyn i griw o gorau a grwpiau dawns o bob rhan o Ogledd-ddwyrain Cymru gael arddangos eu… Darllen rhagor »

Mwy o gystadleuwyr o dramor wrth i’r ŵyl ddathlu carreg filltir hanesyddol

Mae nifer y corau a chwmnïau dawnsio o dramor sy’n bwrw am ŵyl gerddorol ryngwladol eiconig Gogledd Cymru wedi cynyddu am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn. Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo heddwch a chytgord ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac sy’n dathlu carreg filltir hanesyddol y mis hwn,… Darllen rhagor »

Kate y seren opera byd enwog o’r America yn camu i’r adwy fel Carmen

Kate Aldrich yn cael ei gweld fel “Carmen ei chenhedlaeth” Mae firws wedi gorfodi Katherine Jenkins i dynnu nôl o gyngerdd yng Ngogledd Cymru ar gyngor meddygol ond mae’r trefnwyr wedi sicrhau seren opera “o safon ryngwladol” i gymryd ei lle. Roedd y gantores Cymraeg glasurol yn “hynod siomedig” ar ôl cael ei tharo gan… Darllen rhagor »

Rheolwr newydd i ŵyl eiconig

Cyn-gyfreithwraig o Gaer yw’r person newydd sy’n gyfrifol am y gwaith o redeg un o wyliau cerddorol mwyaf eiconig y Deyrnas Unedig.