Mae cystadleuaeth eiconig i ddod o hyd i gantorion ifanc gorau’r byd wedi cael hwb enfawr gan sefydliad gofal arloesol. Mae Parc Pendine wedi cytuno i fwy na threblu’r wobr ariannol fydd ar gael i’w hennill yng nghystadleuaeth fawreddog Llais y Dyfodol yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Yn ôl Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd yr… Darllen rhagor »
Canlyniadau'r chwilio: fyd
Mab sylfaenydd Eisteddfod Llangollen yn cofio dyddiau cynnar cyffrous yr ŵyl
Bydd mab y gŵr a sefydlodd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ŵr gwadd yn ystod y 70ain ŵyl fis Gorffennaf yma. Mae Peter Tudor, sydd nawr yn 84 oed, yn cofio sut y bu i’w dad, y newyddiadurwr Cymraeg nodedig Harold Tudor, feddwl am y syniad o ddigwyddiad diwylliannol mawr er mwyn helpu i leddfu… Darllen rhagor »
Eisteddfod Llangollen ar ben ei digon wrth i fecws lleol estyn ffon fara iddi
Mae rheolwyr becws wedi rhoi hwb ariannol amserol i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Yn gynharach eleni, lansiodd yr ŵyl apêl am arian oherwydd bod digwyddiad 2015 yn wynebu colled ariannol. Cododd yr apêl £50,000 a bellach mae becws y Village Bakery, un o noddwyr ffyddlonaf yr ŵyl, yn bwriadu talu arian nawdd y flwyddyn nesaf… Darllen rhagor »
Bryn Terfel ac un o brif denoriaid y byd ar lwyfan gyda’i gilydd yng nghyngerdd gala Llangollen
Mae’r seren opera enwog Bryn Terfel, yn bwriadu dathlu 70fed Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen mewn steil – drwy rannu’r llwyfan gyda chyfaill da iddo sydd hefyd yn denor rhyngwladol o fri. Bydd y bas-bariton poblogaidd Bryn Terfel CBE, yn serennu yng nghyngerdd nos Iau, 7 Gorffennaf, ac yn ymddangos ar y llwyfan gydag ef fydd… Darllen rhagor »
Y chwedlonol bwgi wwgi Jools Holland yn dychwelyd i ddathlu braint yr ŵyl
Bydd y chwedlonol bwgi wwgi Jools Holland yn dod yn ôl i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddathlu dod yn is-lywydd yr ŵyl eiconig. Yn gyn bianydd Squeeze, arweinydd band, awdur, cyflwynydd teledu a radio, mae wrth ei fodd cael cynnig y swydd er anrhydedd yn ‘y digwyddiad gwbl ddisglair’. Bydd Jools a’i Gerddorfa Rhythm… Darllen rhagor »
Diwedd cyfnod wrth i un o hoelion wyth yr Eisteddfod gamu lawr ar ôl 64 mlynedd
Yr wythnos hon bydd yr unig gadeirydd sydd wedi gwasanaethu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am ddau dymor yn camu i lawr, gan ddod â chysylltiad 64 mlynedd gyda’r digwyddiad mawr i ben. Dechreuodd Gethin Davies fel gwerthwr rhaglen 12 oed yn 1951 ac mae hefyd wedi bod yn dywysydd ac ysgrifennydd yr ŵyl, yn ogystal… Darllen rhagor »
Arddangos car clasurol yn yr Eisteddfod a ddefnyddir i helpu pobl â dementia
Mae car clasurol sydd wedi cael gweddnewidiad papur arbennig, yn cael ei ddefnyddio fel cyfrwng i helpu pobl sy’n byw gyda dementia. Gellir gweld y cerbyd salŵn Daf 44 1975 prin, sy’n eiddo i’r artist llawrydd Carol Hanson, yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr wythnos hon fel rhan o brosiect dwy flynedd o’r enw Dementia… Darllen rhagor »
Millie un o wirfoddolwyr yr Eisteddfod yn ennill gwobr ffotograffiaeth o fri
Mae gwirfoddolwr yn ei harddegau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi ennill cystadleuaeth ffotograffiaeth genedlaethol o fri sy’n cael ei rhedeg gan y Sunday Times. Bydd ffotograff buddugol Millie Adams Davies, o Langollen, yn cael ei arddangos yn yr Eisteddfod ble mae hi wedi bod yn wirfoddolwr ers oedd yn 11 oed. Enillodd y ferch… Darllen rhagor »
Chwaraewr sacsoffon o fri yn dweud bod Llangollen yn creu sêr cerdd y dyfodol
Yn ôl Amy Dickson roedd perfformio mewn eisteddfodau yn ôl yn ei mamwlad Awstralia, ers pan oedd yn bump oed yn baratoad perffaith i’w gyrfa ddisglair fel un o brif chwaraewyr sacsoffon y byd. Ac yn ôl Amy, sydd wedi cael ei henwebu am wobr Grammy ddwywaith, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn gwneud yr… Darllen rhagor »
Terry Waite yn rhybuddio cynulleidfa Eisteddfod Llangollen fod y ‘Trydydd Rhyfel Byd eisoes wedi dechrau’
Mae’r Trydydd Rhyfel Byd eisoes wedi dechrau, yn ôl yr ymgyrchydd heddwch Terry Waite CBE. Cyflwynwyd y rhybudd gan Mr Waite wrth draddodi anerchiad pwerus i gynulleidfa Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Ef yw Llywydd yr Eisteddfod ac mi dreuliodd bron i bum mlynedd yn gaeth fel gwystl grŵp terfysgol yn Beirut.