Canlyniadau'r chwilio: fyd

Johns’ Boys o Gymru yw Côr y Byd 2019

Yn dilyn wythnos o gystadlu brwd, bu i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2019 goroni Côr John’s Boys yn Gôr y Byd a Loughgiel Folk Dancers yn Bencampwyr Dawns y Byd mewn seremoni ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 6ed. Mewn ffeinal gyffrous, cafodd Gor John’s Boys o Rosllannerchrugog eu henwi yn Gôr y Byd a’r grŵp dawns Loughgiel Folk… Darllen rhagor »

Jodi Bird yw Llais Sioe Gerdd Ryngwladol 2019

Perfformiwr Cymraeg sydd wedi cipio teitl Llais Sioe Gerdd Ryngwladol yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2019. Fe wnaeth Jodi Bird, 21, syfrdanu’r gynulleidfa a’r beirniaid gyda’i dehongliad o Woman, a berfformiwyd yn wreiddiol gan Stephanie J Block, Tell me on a Sunday gan Marti Webb a 14g, gan Janine Tesori ond a waned yn enwog… Darllen rhagor »

Noson o gerddoriaeth werin fyrlymus gyda MABON

Fe ddaeth llwyfan Eisteddfod Llangollen yn fyw gyda melodïau gwerin fyrlymus nos Iau, diolch i fand Jamie Smith, Mabon, a’u steil chwareus wrth gyflwyno casgliad egnïol o gerddoriaeth werin Gymraeg traddodiadol.

Cerddoriaeth Cymru wrth galon dathliadau Llangollen

Nos Fercher, fe gynhaliwyd noson gyfareddol o gerddoriaeth Gymreig yn Eisteddfod Llangollen yng nghwmni’r soprano Shân Cothi a’r tenor Rhodri Prys Jones. Roedd y ddau unawdydd yn canu i gyfeiliant cerddorfa Sinffonieta Prydain, wnaeth hefyd berfformio gyda’r tenor byd enwog, Rolando Villazón, mewn gala glasurol nos Fawrth.

Rolando Villazón yn Cyfareddu Cynulleidfa Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Bu i Rolando Villazón adael y gynulleidfa mewn edmygedd llwyr yn dilyn ei berfformiad cyntaf yng ngwledydd Prydain eleni. Fe wnaeth y tenor byd enwog berfformio am y tro cyntaf yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen mewn gala glasurol gyfareddol nos Fawrth. Mewn wythnos sy’n addo cyfres o berfformiadau cyffrous, roedd Villazón yn dilyn noson agoriadol… Darllen rhagor »

Jools Holland Yn Agor Eisteddfod Llangollen 2019

Cafodd cynulleidfa Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ei diddanu gyda pherfformiad egnïol gan y perfformiwr a ffrind oes i’r Eisteddfod, Jools Holland ar noson agoriadol yr ŵyl. Am y 73ain flwyddyn yn olynol, mae’r ŵyl yn addo wythnos o gerddoriaeth safonol gan berfformwyr fel y tenor clasurol Rolando Villazón, Gipsy Kings, a’r grŵp indie The Fratellis… Darllen rhagor »

Ymddangosiad cyntaf yng Nghymru i’r Maestro Ifanc

Mae wedi bod yn cyffroi’r byd arwain, ac erbyn hyn mae’r arweinydd Prydeinig, James Hendry, yn dod â’i arddull unigryw i Langollen 2019 yn ei ymddangosiad cyntaf yng Nghymru ar nos Fawrth y 7fed o Orffennaf.

#EichLlangollen: Digwyddiad codi arian

Mae Eisteddfod Llangollen yn gwahodd pobl i ddathlu lansiad ei hymgyrch codi arian #EichLlangollen fel rhan o Wythnos Genedlaethol Codi Arian (20fed – 24ain  o Fai) gyda digwyddiad am ddim yn Sgwâr Canmlwyddiant y dref ar ddydd Sadwrn 25ain o Fai rhwng 11yb-4yp. Nod #EichLlangollen yw codi ymwybyddiaeth o statws elusennol yr Eisteddfod Ryngwladol a… Darllen rhagor »

Gofalu am y Blaned

Er mwyn hyrwyddo agwedd gadarnhaol tuag at ailgylchu, mae Eisteddfod Llangollen wedi gwella nifer o gamau gweithredu allweddol er mwyn sicrhau bod gŵyl 2019 yn chwarae ei rhan wrth ofalu am ein planed. Er bod dŵr yfed wedi bod ar gael yn rhwydd ar y safle erioed, eleni rydym unwaith eto wedi nodi’r tapiau ar… Darllen rhagor »

Treuliwch benwythnos gŵyl gerddoriaeth mewn steil wrth i Glampio ddod i Lanfest

O’r 6ed i’r 8fed o Orffennaf, gall ymwelwyr brofi penwythnos yr ŵyl mewn steil wrth i Glampio ddod i Llanfest am y tro cyntaf. Mewn partneriaeth â’r Red Sky Tent Company, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnig gwersylla moethus dros benwythnos yr ŵyl ar gyfer Llanfest – ei gŵyl gerddoriaeth undydd sy’n cael ei… Darllen rhagor »